Pererin wyf ar daith, A'm ffordd yn faith, a phell, Yn ceisio myn'd, a minau'n wan, Tua gwlad a chartref gwell; Mae rhwystrau bron fy nal, A'm hatal weithiau'n ol, O! tỳn fi — tỳn fi, Iesu da! Mi a redaf ar dy ol. O! brysia, Arglwydd! mwy - Dy ddysgwyl 'rwyf bob dydd, A thôr fy holl gadwynau câs - Gwna, fi â'th ras yn rhydd; Nid wyf am orphwys mwy Nes byddwyf yn dy gôl, O! tỳn fi — tỳn fi, Iesu da! Mi a redaf ar dy ol. 'Rwyf yn terfynu 'nghred 'Rol pwyso oll ynghyd, Mai cyfnewidiol ydyw dyn, Ond Duw sy'r un o hyd: Ar ei ffyddlondeb ef, Sy'n noddfa gref i'r gwan, Mi gredaf dof mhen gronyn bach, O'r tonnau'n iach i'r lan.1-2: Dafydd Jones 1711-77 3 : William Williams 1717-91
Tonau [MBD 6686D]:
gwelir: |
I am a pilgrim on a journey, And my road is long and far, Trying to go, and I weak, Towards a better land and home; Obstructions are almost keeping me, And sometimes holding me back, Oh draw me - draw me, good Jesus! I will run after thee. Oh hurry, Lord! Henceforth - I will watch for thee every day, And break all my hated chains - Make me free by thy grace; I shall no longer rest Until I am in thy bosom, Oh draw me - draw me, good Jesus! I will run after thee. I am concluding my belief After weighing all together That changeable is man, But God is always the same: On his faithfulness, Which is a strong refuge to the weak, I believe I shall come in a little bit, From the waves, whole, to the shore.tr. 2012 Richard B Gillion |
|